Croeso i Cymunedau yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr
Nod ein rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw lleihau tlodi trwy wella addysg a sgiliau, iechyd a chyfleoedd am waith.
Mewn ardaloedd cod post penodol trwy Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae ein timau a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn gweithio gyda thrigolion, sefydliadau cymunedol, busnesau ac asiantaethau allweddol eraill i leihau’r bwlch o ran addysg a sgiliau, y bwlch economaidd a’r bwlch iechyd rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a mwy cefnog ym mhob rhan o’r fwrdeistref sirol.
Ar ein gwefan, cewch wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau a rhaglenni amrywiol y mae Cymunedau yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr yn eu cynnal yn y gwahanol gymunedau, gan eich helpu i gael gwybod sut y gallwch chi gymryd rhan a sut i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Darllenwch fwy yn Cymunedau yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr yma >>>